Ynni i ffynnu

Bydd ynni adnewyddadwy’n rhoi’r pŵer i Gymru ffynnu.
Yn ein cenedl, bydd pobl a natur yn gweithio gyda'i gilydd ar gyfer dyfodol glanach a mwy disglair.

Cenhadaeth Trydan Gwyrdd Cymru yw datgloi potensial ynni adnewyddadwy Cymru, a sicrhau buddion i’n cymdeithas, ein hamgylchedd a’n heconomi, i bawb sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Byddwn yn gwneud hyn trwy ragori wrth gyflenwi, arweinyddiaeth gyfrifol a chydweithio rhagweithiol.

Mae Trydan Gwyrdd Cymru yn eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru https://www.llyw.cymru/

Ein Hamcanion

Cylch gwaith Trydan Gwyrdd Cymru gan Lywodraeth Cymru yw datblygu a chyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy, yn gyntaf ar ystâd gyhoeddus Cymru, gyda’r buddion economaidd a chymdeithasol hirdymor gorau posibl i bobl Cymru.

Nodau Trydan Gwyrdd Cymru yw:

• datblygu 1 GW (1000 MW) o gapasiti cynhychu egni adnewyddadwy newydd erbyn 2040.

• bod yn ddatblygwr enghreifftiol, gan weithio gyda'r diwydiant a chymunedau ehangach.

• cynghori a gweithio gyda'r sector cyhoeddus, i wireddu cynhyrchu ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth leol.

Pam mae angen prosiectau ynni glân ar raddfa fawr? Onid yw paneli solar ar adeiladau yn ddigon? Beth yw manteision datblygiadau ar Ystâd Goedwigaeth Llywodraeth Cymru? Mae'r ffilm fer hon yn cynnig rhai atebion.

 

Gweler fwy o fideos byr gan Drydan yma

Cymryd rhan

Mae cymunedau lleol a rhanddeiliaid yn allweddol i lunio cynlluniau datblygu Trydan Gwyrdd Cymru. Rydym yn dod atoch chi am wybodaeth leol ar y cyntaf o'n prosiectau. Gweler dudalennau "Ein Gwaith". Mae darparu buddion i Gymru a'r cymunedau agosaf i'n prosiectau yn ganolog i'n pwrpas ynni i ffynnu. Ceir fwy o wybodaeth ar dudalen we Cymuned.

Cymuned

Gwybodaeth am ein gwaith

Yn focysu i gychwyn ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, rydym yn asesu ble y gellir datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy cynaliadwy. Mae datblygiadau gwell, cynaliadwy yn golygu cyflawni'r canlyniadau mwyaf cadarnhaol i bobl, natur a'r blaned, dros y tymor hir. Darllenwch ragor am beth sydd yn gysylltiedig â'r astudiaethau amgylcheddol a thechnegol sy'n cyfrannu at ein cynlluniau a dysgwch fwy am ein prosiectau cyntaf.

Ein gwaith

Pam Trydan Gwyrdd Cymru?

Mae llawer o ddatblygwyr eisoes yn gweithredu yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang. A fydd Trydan Gwyrdd Cymru yn gwneud gwahaniaeth? Gall pob datblygwr ynni adnewyddadwy helpu i fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd, cyfrannu at drawsnewid ynni, a thros y tymor hir, helpu i leihau cost ynni i ddefnyddwyr. Trydan Gwyrdd Cymru yw’r unig ddatblygwr ynni gwynt ar y tir ar raddfa fwy sy’n eiddo’n gyfan gwbl i bobl Cymru gyda ffocws unigol ar gyflawni dros Gymru. Dyma'r tîm.

Pwy ydym ni

A all byd natur a seilwaith ynni adnewyddadwy gydfodoli mewn cytgord?

Un o'r bygythiadau mwyaf i fyd natur yw newid hinsawdd. Mae natur hefyd yn cael ei bygwth gan effeithiau lleol, o nifer o wahanol fathau o weithgarwch dynol. Mae gwell dealltwriaeth yn golygu datblygu seilwaith gwell a mwy cynaliadwy. Mae dewis ble i ddatblygu yn allweddol. Bydd Trydan Gwyrdd Cymru yn rhan o’r ymgyrch i ddefnyddio tir cyhoeddus Cymru yn fwy strategol ac effeithlon, gan sicrhau manteision lluosog ym mhob lleoliad. Mae coedwigoedd planhigfeydd conwydd yn darparu adnoddau pwysig i gymdeithas, ac mae'r patrwm cylchol o dorri ac ailblannu’n agor lle i dyrbinau gwynt. Gydag arferion rheoli coedwigoedd newydd, mae coedwigaeth fasnachol yn gweithio'n well gyda natur, ac mewn partneriaeth, byddwn yn archwilio cyfleoedd i sicrhau buddion bioamrywiaeth.

Cynaladwyedd