Ynni i Ffynnu

Cydweithio er budd cymunedau a Chymru gyfan

Er mwyn cyflawni ein cenhadaeth, mae angen i ni fod yn rhan o glymblaid eang o sefydliadau a phobl, gan nodi heriau a chyfleoedd i fynd i'r afael â rhwystrau, gyda'n gilydd.

Rydym yn adeiladu ar ymdeimlad cryf o gyfiawnder cymdeithasol, a rennir gan bobl yng Nghymru. Gallwn ddysgu oddi wrth ac ehangu ar enghreifftiau gwych o gyfranogiad a chydweithio rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a chymunedol.

Hoffem gweithio hefo ti. Yng Nghymru, mae gennym hanes o gydweithio ac ymgysylltu cymdeithasol. Mae hyn yn rhywbeth mae Trydan yn ei werthfawrogi, ac am barhau. Yn ein barn ni, er mwyn i bobl gefnogi cynnydd mewn ynni adnewyddadwy, bydd angen i'r sector adnewyddadwy sicrhau buddion amlwg ar gyfer cymunedau lleol. Bydd rhaid hefyd buddsoddi mwy mewn cadwyni cyflenwi Cymru a'r DU, a helpu preswylwyr a busnesau sy'n poeni am filiau ynni.


 

Cwestiynau Cyffredin

Oes cwestiwn gennych chi? Os felly, yna ymwelwch â'n tudalennau Cwestiynau Cyffredin i'n prosiectau isod. Os oes gennych chi gwestiynau pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Glyn Cothi

Clocaenog Dau

Carreg Wen

Larnog


2 flwyddyn ers lansiad cyhoeddus Trydan Gwyrdd Cymru

Dyma grynodeb fer o uchafbwyntiau dros y 2 flwyddyn diwethaf. Edrychwn ymlaen at barhau ein gwaith yn y blynyddoedd i ddod.

 

 

                                                 


 

Mae Gwefr newydd allan - darllenwch y newyddion diweddaraf

Dros gychwyn y flwyddyn hon, rydym wedi bod yn paratoi gwybodaeth am dri/dau brosiect ynni adnewyddadwy, fel y gallwn weithio ar eu dylunio, a'ch ymrwymo chi. Mae ein dau / tri phrosiect cyntaf ble cychwynnwn y gwaith datblygu wedi’u lleoli mewn ardaloedd helaeth o goedwigaeth fasnachol weithredol, gyda ffermydd gwynt cyfagos. Mae ein cynlluniau cychwynnol yn awgrymu bod y ddwy / tair fferm wynt gyda’i gilydd yn cynrychioli hyd at 295 / 400 MW o drydan glân, gwyrdd. Mae hwn yn ddechrau gwych tuag at ein targed i ddatblygu 1 GW o gapasiti cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd ar dir cyhoeddus Cymru erbyn 2040. Lawr lwythwch rifyn 2 o GWEFR yma. Gobeithiwn y cewch hwyl ar ei ddarllen.

Gwefr - Newyddion Ti a Thrydan Gwyrdd Cymru Rhif2 Gorffennaf 2025

Adroddiad Fer "TI'n gyntaf!"

Rydym yn cyhoeddi adroddiad cryno a gyfansoddwyd gan “Give my View Ltd.” cwmni annibynnol a gynhaliodd yr arolwg ar-lein ar ein rhan, er mwyn i chi weld braslun o’r mewnbwn derbyniwn.

Adroddiad cryno TI'n gyntaf gan GMV

Darllenwch ein cylchlythyrau blaenorol yma

Gwefr - Newyddion Ti a Thrydan Gwyrdd Cymru Rhif1 Rhag 24