Cyhoeddwyd 19/12/2025 | Diweddaru Diwethaf 19/12/2025
Wrth edrych yn ôl ar 2025, mae Trydan yn falch i allu dangos cynnydd yn ei genhadaeth: o greu'r 'Ynni i Ffynnu', yng Nghymru ac i Gymru.
Gair gan ein Prifweithredwr - Richard Evans
"Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu tuag at waith Trydan Gwyrdd Cymru dros 2025.
Rydym wedi gweithio’n galed ar ran ein perchnogion, Llywodraeth Cymru, ac yn bennaf ar ran pobl Cymru, gyda lansiad tri phrosiect gwynt ar y tir, ac un prosiect ynni solar. Rydym wedi cychwyn creu perthnasau gyda thrigolion, busnesau a mudiadau yn agos at y prosiectau - edrychwn ymlaen at gwrdd â mwy ohonoch chi yn 2026. Mae’r tîm, a’n arbenigedd, wedi ehangu, ac rydym wedi creu cytundebau gyda sawl cwmni cyflenwi newydd - yn rhannu cyfleoedd gyda busnesau Cymru a’r DU.
Dyma rannu rhai o uchafbwyntiau'r flwyddyn gyda chi - gweler y fideo isod.
Cyfarchion y tymor, a Blwyddyn Newydd dda,
Richard."
Cipolwg i'r gwaith sydd i ddod yn 2026
Edrychwn ymlaen at weithredu ar y canlynol yn 2026...
- Dychwelyd i gymunedau, gydag adolygiadau i'n cynlluniau prosiect, wedi gwrando ac ymateb i'w adborth
- Ffocysu ar arolygon ecolegol ac amgylcheddol ar draws ein prosiectau datblygu
- Cynnal sgyrsiau ynglŷn â'r buddion gall Trydan ddarparu i drigolion lleol ac i Gymru gyfan - gan barhau o'r arolwg 'Ti'n Gyntaf, YOU First!'
Cadwch lygad allan am gynlluniau mwy manwl yn y flwyddyn newydd.
Tan hynny, mae tîm Trydan yn ymestyn Cyfarchion y Tymor atoch, ac yn dymuno Blwyddyn Newydd dda i chi gyd.