Cyhoeddwyd 22/12/2025 | Diweddaru Diwethaf 22/12/2025
Fel rhan o'i genhadaeth i greu'r 'Ynni i Ffynnu' yng Nghymru, mae Trydan yn ymrwymo ei hun tuag at feithrin talent Gymreig yn y sector adnewyddadwy - o fewn ei thîm ei hun a'i phartneriaid a chontractwyr.
Gweler y fideo isod am fewnwelediad gan ein gweithwyr graddedig, Fred ac Owen, wrth iddynt drafod y cyfleoedd cyffrous y mae gweithio i Drydan yn darparu, yn ogystal â'r cyfleoedd pellach bydd yn codi i bobl ifanc wrth i brosiectau Trydan ddatblygu.
Adeiladu gyrfaoedd gyda phobl ifanc, ar draws Cymru a'i chadwyn cyflenwad
Dim ond un rhan o ymrwymiad Trydan tuag at greu cyfleoedd i bobl ifanc Cymru yw recriwtio graddedigion i mewn i'w thîm ei hun.
Gweler y fideo isod i ddarganfod mwy am sut mae ein partneriaethau gyda'r gadwyn cyflenwad ar gyfer Clocaenog Dau, un o'n prosiectau gwynt ar y tir, yn generadu swyddi a chyfleoedd gwaith i bobl ifanc yng Ngogledd Cymru: