Cyhoeddwyd 18/08/2026 | Diweddaru Diwethaf 18/08/2026
Roedd Trydan Gwyrdd Cymru – cwmni ynni adnewyddadwy sy’n berchen i Lywodraeth Cymru, ac sy’n gweithredu ar ein rhan ni, pobl Cymru – yn cymryd rhan mewn sawl gweithgaredd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dros ddeuddydd prysur ar y Maes, cyflwynwyd Trydan Gwyrdd Cymru i gannoedd o bobl Cymru trwy nifer o weithgareddau. Buom, er enghraifft, yn:
- Creu tyrbinau gwynt papur gyda phlant, wrth sgwrsio gyda’u rhieni am agweddau tuag at newid hinsawdd ac ynni glân
- Noddi’r Pentre Gwyddoniaeth a Thechnoleg a chynnal “Cwis Mawr Trydan” (dwywaith) yno, gan annog cystadleuwyr i ddysgu am hanes, technoleg a dyfodol y trawsnewidiad ynni – wrth brofi dipyn o sbort hefyd.
- Holi pobl ar y Maes a oedd ganddynt gwestiwn ynghylch ynni adnewyddadwy yr hoffent i ni ei ateb – hwn ar gyfer Fideo FAQ rydym wrthi’n paratoi.
- A’n menter fwyaf oedd sgwrs panel gyda phobl ifanc yn gweithio i gyfathrebu, nid yn unig eu gobeithion nhw am ynni glân, ond gobeithion y rhan helaeth o boblogaeth Cymru hefyd, ym Mhabell y Cymdeithasau, o flaen cynulleidfa fyw.


Pleser oedd gweld gymaint yn mwynhau “Cwis Mawr Trydan” – ein hail gyfres o’r gystadleuaeth ar ôl Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai. Roedd y model o noddi’r Pentre Gwyddoniaeth a Thechnoleg, fel y gwnaethpwyd gyda Gwyddonle’r Urdd, yn fodd llwyddiannus unwaith eto i godi proffil Trydan er mwyn annog sgyrsiau gyda mwy o bobl am ein cynlluniau i wneud i’r trawsnewidiad ynni weithio i Gymru. Yn yr achos yma, yng Ngogledd Sir Benfro, roedd prosiect arfaethedig Fferm Wynt Glyn Cothi , o fewn Sir Gâr, yn un perthnasol a diddorol i nifer fawr o bobl leol i’r Maes ac i’r ardal yn gyffredinol.

Menter llai cyfarwydd oedd tro cyntaf Trydan ym mhabell y Cymdeithasau – bu ymgeision cyntaf ar hysbysebion cyfryngau cymdeithasol, cynnwys un o ‘enwogion’ sin gerddoriaeth Cymru – sef Lefi Dafydd o fand y foment, “Dewin”, sydd â nifer o ganeuon gyda themâu amgylcheddol – a chynnig panel o bobl ifanc i drafod materion yr hinsawdd o safbwynt cenedlaethau ifanc y wlad.
Pwrpas y sgwrs anffurfiol oedd ystyried cwestiynau megis “Ydy Cymru angen deffro i argyfwng yr hinsawdd / ydyn ni ar ei hôl hi?” a serch y pwnc sobr “pam nad yw’n haws cael pobl i’w drafod yn agored?” Bûm yn nodi tystiolaeth arolygon barn, yn ystyried penawdau newyddion diweddar, rhyfela diwylliannol - “culture wars”, ac yn cofio’r cyfnod cyn Cofid, pan oedd pobl ifanc ar strydoedd o Gaerdydd i Gaernarfon a’r Fenni, yn adlewyrchu geiriau Greta Thunberg: “yr unig beth ry’ ni angen fwy na gobaith yw gweithredu….” I gadw ymrwymiad y babell, wedi sôn am ein buddugoliaethau cyfathrebu, wnaethom lanio’n sydyn ar ein fflop fwyaf, a chawsom dipyn o chwerthin tyner o’r gynulleidfa.
Y pwynt roedd y sgwrsio’n dod 'nôl ato oedd yr angen i Gymru fod yn fwy uchelgeisiol gyda’r datrysiadau rydym yn cynllunio er mwyn atal allyriadau newid hinsawdd, ac yn fwy uchelgeisiol hefyd am greu buddion i bobl Cymru o drawsnewidiad ynni teg, a chyflym.

Mae ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad cyhoeddus yn rhan hollbwysig o fod yr unig ddatblygwr ynni adnewyddadwy sy’n gweithredu ar ran pobl Cymru. Rhan o deithlen estynedig Trydan dros yr haf oedd Eisteddfod y Garreg Las – dilynwch ein cyfrifon LinkedIn ac Instagram i ddarganfod mwy am ein gweithrediad hyd yma, a’r hyn sydd i ddod.