Cyhoeddwyd 26/05/2026 | Diweddaru Diwethaf 26/05/2026
Ar Ddydd Mawrth y 26ain o Fai, pedwerydd diwrnod Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn, bu Catrin Ellis Jones ar y Maes yn cynrychioli Trydan fel noddwyr cystadleuaeth 'Prosiect Gwyddonol i Flwyddyn 7, 8, a 9'.
Eisteddfod yr Urdd wyrddaf erioed ydoedd, gyda darpariaeth trydan o'r grid, paneli solar, a generadur hydrogen gwyrdd am y tro cyntaf erioed. Mae'r cyflawniad yma hyd yn oed yn fwy trawiadol wrth feddwl bod 118,000 o gystadleuwyr yn rhan o'r ŵyl - record ar gyfer Eisteddfod yng ngogledd Cymru.
Felly, priodol iawn oedd mynychu seremoni a wobrwyodd Ella Foskett fel pencampwraig y gystadleuaeth wyddonol, gyda'i hymchwil ar effaith gwastraff plastig ar fywyd morol.

Mae Ella, disgybl 13 mlwydd oed o Ysgol Uwchradd Llanidloes, yn hoff iawn o wyddoniaeth. Ddaru hi fwynhau gwneud yr ymchwil ar gyfer y traethawd, a dysgu am wahanol fathau o blastig a’u heffaith difrifol ar fywyd natur yn y môr.
Mae Ella yn credu bod angen mwy o wyddonwyr a phobl sy’n dilyn gyrfaoedd technegol ac arbrofol er mwyn gallu cynnig datrysiadau i rai o’r heriau mawr sy’n wynebu dynoliaeth, a'i chenhedlaeth hi yn arbennig.
“Rhaid cymryd lot o sylw ar yr amgylchedd a rhaid bod yn ofalus, neu bydd dim ar ol” meddai Ella.
“Dwi’n meddwl fod yn ynni adnewyddadwy yn gret! Mae’n bwysig er mwyn lleihau allyriadau carbon ac atal newid hinsawdd. Mae hefyd yn rhad. Mae gennym ni paneli solar ar ein tŷ.”
Dywedodd Catrin Ellis Jones, Pennaeth Ymrwymiad Cyhoeddus Trydan:
“Mae mor braf gweld gymaint o dalent ar faes yr Eisteddfod, ar y llwyfanau ac yn y pebyll celf. Mae Ella yn berson ifanc gyda donnau fri, ac mae’n amlwg y bydd yn gwneud ei gorau glas ar gyfer natur, a’r amgylchedd yn y dyfodol.”
Da iawn Ella, a da iawn i bawb sy’n cystadlu!”
Mae Trydan yn y Gwyddonle ar Ddydd Iau a Gwener trwy'r dydd, gyda Cwis Mawr Trydan rhwng 2-3yh ar y ddau ddiwrnod. Dewch i'n gweld!