Lansiad Cystadleuaeth Celf neu Gerdd Trydan

Cyhoeddwyd 18/06/2026   |   Diweddaru Diwethaf 18/06/2026

Mae Trydan wedi partneru gydag IAW, cylchgrawn yr Urdd i ddysgwyr Cymraeg ifanc, i gynnig cystadleuaeth creadigol ynghyd â gwobr gwefreiddiol.


 

Daw rhifyn Mehefin/ Gorffennaf cylchgrawn IAW â sialens i brofi donnau creadigol ieuenctid Cymru trwy ddarn o gelf neu gerdd. 

Thema'r gystadleuaeth yw i greu darn o gelf neu gerdd yn seiliedig ar ddehongliad, agored a chreadigol y cystadleuwyr, o 'Ynni i Ffynnu'.

Crynodeb o weledigaeth Trydan yw 'Ynni i Ffynnu' - gweledigaeth sydd yn ei wneud yn wahanol i gwmniau ynni eraill. Hynny yw, i wireddu potensial ynni adnewyddadwy Cymru, er lles cymdeithas, yr amgylchedd, a’r economi. 

Fel cwmni ynni adnewyddadwy pobl Cymru, mae'r gweithgaredd yn ran o bartneriaeth Trydan Gwyrdd Cymru ac Urdd Gobaith Cymru, ac mae'r gwahoddiad ar agor i'r genhedlaeth iau tanio uchelgais, creadigrwydd, a gobaith y genedl gan edrych tua dyfodol ffyniannus a chynaliadwy.

 

Y broses ymgeisio


Rhowch hwb i dîm ynni adnewyddadwy Cymru, gyda’ch dehongliad, agored a chreadigol, chi o “Ynni i Ffynnu” drwy gyfansoddi: 

  • Celf - unrhyw gyfrwng 2 ddimensiwn (2D) ar bapur A4; neu
  • Cerdd yn y Gymraeg - gall odli neu beidio, dim mwy na 24 llinell o hyd.  
     

Grwpiau oedran (yn seiliedig ar oedran ar 31 Awst 2026):

  • Iau: 10 oed a iau
  • Canolradd: 11 i 13
  • Hŷn: 14 i 17 mlwydd oed


Nodwch ar eich cais:

  • Eich bod yn ymateb i’n cystadleuaeth yng nghylchgrawn IAW.
  • A’ch oedran!

Rheolau Ymgeisio

Ffurflen Gais

 

Rhaid i’ch gwaith fod yn wreiddiol, a’n cyrraedd erbyn 1 Awst.  
 

Mi fydd gwobrwyau i’r enillwyr ym mhob categori, a’u gwaith yn arddangos ar wefan Trydan Gwyrdd Cymru.  

Pob lwc!


Os ydych chi, neu rhywun rydych chi'n gwybod, am feithrin eich defnydd a dealltwriaeth o'r Gymraeg, yna mae'r gylchgrawn IAW yn ddeunydd bendigedig i chi ddefnyddio. Gweler mwy o wybodaeth, a rhifynnau blaenorol, trwy'r ddolen yma.