Cyhoeddwyd 05/12/2025 | Diweddaru Diwethaf 05/12/2025
- Gall y brosiect generadu hyd at 35MW o ynni glân – mae hyn yn gyfatebol i anghenion trydan tua 13,800 o gartrefi cyffredin yng Nghymru.*
- Ardal Lavernock, rhwng Sili a Phenarth, bydd lleoliad y brosiect
- Bydd y brosiect yn cyfrannu at bortffolio Trydan, sydd trwy ei brosiectau cyhoeddus yn anelu am ddarparu trydan glân cyfatebol i anghenion trydan chwarter o gartrefi Cymru.
Cymerwyd camau nesaf gan Trydan tuag at gadwyn gwerth ehangach i bobl Cymru, gyda lansiad Fferm Solar Larnog, ger Lavernock ym Mro Morgannwg. Gall y prosiect generadu hyd at 35MW o ynni glân, sy’n gyfatebol i anghenion trydan 13,800 o dai cyffredin yng Nghymru. Mae’r prosiect felly yn cyfrannu’n sylweddol at botensial o 400MW o ynni glân ar draws bortffolio Trydan hyd yma.
Mae Trydan Gwyrdd Cymru yn gweithredu er budd Cymru yn unig, gyda’r elw o’i phrosiectau yn cael ei hail-fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer blaenoriaethau a gwasanaethau cyhoeddus y wlad. Mae’r prosiect yn amrywio portffolio Trydan. Mae hyn yn bwysig er mwyn cynyddu diogelwch a gwydnwch seilwaith ynni Cymru, mewn perchnogaeth gyhoeddus, yn ystod amodau tywydd amrywiol, ac i fedru dygymod yn well gyda lefelau galw am egni cyfnewidiol.
Ochr yn ochr â chynhyrchu ynni solar glân, gwyrdd, mae gan Trydan uchelgeisiau i wella natur ar y safle, trwy gyfoethogi a chreu cynefinoedd ar gyfer gwenyn, pryfed, adar a mamaliaid, gwella mynediad ar hyd a lled y safle i gerddwyr a diogelu Llwybr Arfordir Cymru.
Dywedodd Mark Roberts, Rheolwr Prosiect yn Trydan Gwyrdd Cymru:
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at siarad â thrigolion lleol ac adeiladu perthnasoedd cryf o fewn y gymuned. Ein hymrwymiad yw gwrando'n ofalus, ateb cwestiynau, a bwydo'r hyn a ddysgwn yn ôl i gam nesaf y broses ddylunio.
“Rydyn ni’n archwilio ffyrdd arloesol o wella ein safleoedd, fel eu bod yn gweithio'n gytûn ar gyfer pobl leol a'r cynefinoedd cyfagos.”
Ymgynghoriadau Cyhoeddus Anffurfiol
Bydd tîm Trydan Gwyrdd Cymru yn cynnal dau ddigwyddiad galw heibio lleol a fydd yn cynnwys byrddau gwybodaeth am y prosiect a mapiau.
Cynhelir y digwyddiadau yn:
- 3:00pm - 7:00pm, dydd Llun 12 Ionawr yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Sully, South Rd, Sili, CF64 5SP
- 9:30am - 1:00pm dydd Sadwrn 17 Ionawr yn Neuadd Gymunedol Penarth Isaf, Ffordd Brockhill, Penarth, CF64 5QD
Mae'r ymgynghoriad yn rhedeg tan 23 Ionawr 2026. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://trydanlarnog.cymru/.
*Defnydd trydan domestig cymedrig yn ôl gwlad/rhanbarth. Ffynhonnell: DESNZ Subnational Electricity and Gas Consumption Statistics Regional and Local Authority, Great Britain, 2022. (https://assets.publishing.service.gov.uk/media/65b12dfff2718c000dfb1c9b/subnational-electricity-and-gas-consumption-summary-report-2022.pdf)
Dysgwch fwy ar ein tudalen Ein gwaith
Ein gwaith
© alexandrumagurean