Cyhoeddwyd 11/07/2025 | Diweddaru Diwethaf 11/07/2025
- Cychwyn datblygu tri phrosiect fferm wynt ar y tir gyda chynhwysedd o 400MW
- Cywerth i anghenion cyfartalog trydanol blynyddol 350,000 o gartrefi Cymreig – chwarter y cartrefi yng Nghymru; gyda arbedion allyrion carbon deuocsid o 470,000 tunnell y flwyddyn
- Daw buddion o gronfeydd cymunedol, cyfleon cadwyn gyflenwi yn ystod datblygiad, adeiladu a gweithrediadau, gyda amcangyfrif o 650 o swyddi adeiladu dros 1.5 - 2 flynedd; a 40 o swyddi uniongyrchol a 55 o swyddi anuniongyrchol yn ystod y 35 mlynedd o gynhyrchu trydan.
Newyddion mawr Gorffenaf yw ein bod yn cyhoeddi cynigion ar gyfer tair fferm wynt newydd sydd â'r potensial i gynhyrchu hyd at 400 MW o drydan glân – digon i bweru anghenion trydan cyfartalog blynyddol 350,000 o gartrefi yng Nghymru. Mae hynny tua chwarter y cartrefi yng Nghymru.
Rydym yn falch iawn i amlinellu cynlluniau fydd yn helpu i ddiwallu'r angen cynyddol am ynni glân yng Nghymru. Rhagwelir y bydd y galw am drydan bron yn treblu erbyn 2035. Mae'n gam sylweddol tuag at uchelgais Trydan i ddatblygu 1 GW o gapasiti cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd ar dir cyhoeddus Cymru erbyn 2040.
Y tri safle arfaethedig cyntaf yw:
- Fferm Wynt Clocaenog Dau, Sir Ddinbych/Conwy (hyd at 132 MW)
- Fferm Wynt Glyn Cothi, Sir Gaerfyrddin (hyd at 162 MW)
- Fferm Wynt Carreg Wen, Rhondda Cynon Taf (hyd at 108 MW)
Fel cwmni sy’n berchen i Lywodraeth Cymru, mae Trydan yn gweithredu er budd Cymru yn unig, gyda'r holl elw a gynhyrchir yn cael ei ail-fuddsoddi mewn cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd y ffermydd gwynt yn cael eu datblygu ar ystad goetir Llywodraeth Cymru, sy'n cwmpasu 126,000 hectar - 6% o gyfanswm arwynebedd tir Cymru - ac sy'n cynnwys rhai o'r safleoedd sydd â'r potensial gorau yn y wlad ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy.
Mae torri allyriadau carbon Cymru yn un o ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru, sy'n anelu at Gymru'n cynhyrchu digon o drydan adnewyddadwy i fodloni 70% o'r hyn a ddefnyddir yng Nghymru erbyn 2030, gan godi i 100% erbyn 2035.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
“Mae'r cynigion hyn yn dangos ein hymrwymiad i harneisio adnoddau naturiol niferus Cymru i gynhyrchu ynni glân gan sicrhau bod y manteision yn cael eu teimlo'n lleol.
“Drwy ddatblygu'r prosiectau hyn ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, rydym yn gwneud y defnydd gorau o'n tir cyhoeddus i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a chreu cyfleoedd economaidd cynaliadwy.”
Amcangyfrifir y bydd y datblygiadau yn creu cannoedd o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu a'r cam gweithredu, gyda Trydan wedi ymrwymo i gynnwys cwmnïau o Gymru drwy gydol y broses.
Mae rhagor o brosiectau ynni adnewyddadwy yn cael eu datblygu a byddant yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Prif Weithredwr Trydan Gwyrdd Cymru, Richard Evans:
"Gyda Trydan yn gyrru datblygiad, a chyda'r elw o'r buddsoddiad hwn yn cael ei gadw yng Nghymru, mae gennym gyfle unigryw i fanteisio ar y prosiectau a'r buddion lluosog y maent yn eu cynnig.
"Yn y rhannau hynny o Gymru sy'n addas ar gyfer gosodiadau seilwaith, a ledled Cymru, gan weithio gyda phartneriaid cyflenwi, byddwn yn creu ac yn cefnogi swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol o safon yn y sector ynni adnewyddadwy a'r cadwyni cyflenwi, ac yn cyfrannu at fentrau sgiliau. Bydd cymunedau'n cymryd rhan a bydd cyllid yn cefnogi blaenoriaethau lleol."
“Fel datblygwr sy'n gweithredu dros Gymru gyfan, gallwn ymrwymo i raglenni strategol ledled y wlad, megis rheoli ac adfer cynefinoedd, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda rhanddeiliaid perthnasol i ddiffinio gwelliannau uchelgeisiol, hirdymor.”
Dysgwch fwy ar ein tudalen Ein gwaith
Ein gwaith