Cyhoeddwyd 12/11/2026 | Diweddaru Diwethaf 12/11/2026
Mae Trydan Gwyrdd Cymru, cwmni ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac yn gweithredu gyda ac ar ran pobl Cymru, yn gwahodd pobl leol i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad statudol cyn cyflwyno cais ar gyfer Fferm Solar arfaethedig Larnog.
Wedi'i lleoli yn Larnog, rhwng Sili a Phenarth ym Mro Morgannwg, byddai'r prosiect yn gwneud cyfraniad pwysig at ddiogeledd ynni drwy ddarparu tua 35 MW o gapasiti ynni glân gosodedig – digon i bweru tua 13,800 o gartrefi cyffredin yng Nghymru.*
Mae cynlluniau ar waith i wella natur ledled y safle, yn ogystal â chronfa budd cymunedol flynyddol o £400 am bob MW o gapasiti gosodedig; swm sy'n cyfateb i fwy na hanner miliwn o bunnoedd dros oes y prosiect.
Dywedodd Daniel Patterson, Rheolwr Prosiect Trydan Gwyrdd Cymru:
“Rydym ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd at y gymuned leol yn dilyn ein hymgynghoriad anffurfiol yn gynharach eleni, a roddodd gyfle gwerthfawr i ni glywed barn trigolion.
“Ers hynny, rydym ni wedi ystyried y sylwadau a dderbyniwyd yn ofalus, wedi siarad ag arbenigwyr lleol ac wedi cynnal arolygon pellach ar y safle. Defnyddiwyd yr holl wybodaeth hon i lunio dyluniad y prosiect.
“Mae'r cyfnod ymgynghori statudol hwn yn cynnig cyfle pellach i breswylwyr rannu eu barn, er mwyn sicrhau bod y prosiect hwn yn dod â buddion parhaol i Fro Morgannwg.”
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o 11 Tachwedd i 15 Rhagfyr 2026. Mae Trydan Gwyrdd Cymru yn cynnal dau ddigwyddiad galw heibio lle gall trigolion weld byrddau gwybodaeth a mapiau o’r prosiect, darllen drafft y cais cynllunio, a rhoi adborth. Cynhelir y digwyddiadau yn Neuadd Gymunedol Penarth Isaf ar:
3yp-7yp, Dydd Gwener 13 Tachwedd 2026
10yb – 2yp, Dydd Sadwrn 14 Tachwedd 2026
Bydd deunyddiau’r ymgynghoriad a ffurflen adborth ar-lein ar gael ar y we trwy gydol yr ymgynghoriad yn www.trydanlarnog.cymru.
Archwiliwch mwy o wybodaeth am y prosiect, drafft y cais cynllunio, a'r ffurflen adborth ar-lein
Gwefan prosiect Fferm Solar Larnog
© alexandrumagurean
*Defnydd trydan domestig cyfartalog yn ôl gwlad/rhanbarth. Ffynhonnell: Ystadegau Defnydd Trydan a Nwy Is-genedlaethol DESNZ – Rhanbarthol ac Awdurdod Lleol, Prydain Fawr, 2022. (https://assets.publishing.service.gov.uk/media/65b12dfff2718c000dfb1c9b/subnati onal-electricity-and-gas-consumption-summary-report-2022.pdf)