bachgen yn cefnogi gan ddal sgarff Cymru

Hawlfraint y Goron

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddyfodol ynni cyhoeddus yng Nghymru

Cyhoeddwyd 09/09/2026   |   Diweddaru Diwethaf 09/09/2026

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar greu cwmni ynni cyhoeddus cyfunol i Gymru. Mae’r ymgynghoriad yn cydnabod bod y swyddogaethau a gyflawnir ar hyn o bryd gan Trydan Gwyrdd Cymru yn hanfodol i strategaeth ynni’r wlad yn y dyfodol er mwyn cyflawni trawsnewidiad ynni cyfiawn. 

Mae Trydan Gwyrdd Cymru yn croesawu’r cyfle i unigolion a sefydliadau i gyfrannu eu hadborth a’u barn trwy’r ymgynghoriad. 

Wrth i gylch gwaith cwmni ynni cyhoeddus cyfunol i Gymru gael ei gadarnhau, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yma. 

Yn y cyfamser, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ddatblygiad prosiectau ynni adnewyddadwy yn unol â'n cylch gwaith a’n cenhadaeth wreiddiol: cyflymu datblygiad ynni adnewyddadwy mewn eiddo cyhoeddus er budd Cymru. 

Gellir darllen am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yma.