Ymweliad cyntaf i safle Trydan

Cyhoeddwyd 16/03/2026   |   Diweddaru Diwethaf 16/03/2026

Yn y post blog yma, mae Owen, sydd wedi ymuno â Trydan yn ddiweddar, yn adrodd hanes ei ymweliad cyntaf i fferm wynt ar goetir, ac yn synfyfyrio ar wersi a ddysgodd a’r rhagdybiaethau a drechwyd gan ei brofiadau a’i sgyrsiau.

Darganfyddwch fwy am waith Owen, fel rhan o weithlu gyrfa cynnar Trydan, yma.

 

Mae meddwl am ymweliad maes yn debygol o greu delwedd yn y dychymyg o weithiwr mewn cwmni datblygu ynni: het lachar wen, gwisg ‘hi-vis’ gyda logo’r cwmni yn oleufa neon, a chlipfwrdd a bys yn pwyntio at wahanol olygfeydd. Ond, nid yw hyn yn ddiwrnod arferol i weithiwr adran Ymgysylltu a Chyfathrebu, sydd fel arfer mewn gweithleoedd llai anghysbell.

Dyna pam, ar ôl ymuno â Trydan tua diwedd 2025, roedd gennai awydd mawr i ymweld â safleoedd ein prosiectau arfaethedig. Roedd fy chwilfrydedd am natur y berthynas rhwng system generadu ynni mawr a choedwig weithredol – sef, yn ei chraidd, perthynas rhwng anghenion modern dynol a gweithredoedd gweddill natur a’i chynefinoedd – yn fy ngyrru i flaenoriaethu ymweliad i’r safle.

Ac felly y bu ym mis Ionawr, pan fanteisiais ar ymweliad Adam – rheolwr prosiect cynlluniedig Fferm Wynt Clocaenog Dau – â choedwig Clocaenog gyda thîm Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sydd yn rheoli’r coetir.

Cyn i mi hyd yn oed cyrraedd ein man cyfarfod o fewn y goedwig, cefais fy nhrawu gan olygfeydd y safle. Wrth yrru dros fryniau Cerrigydrudion a Llanfihangel Glyn Myfyr, ymddangosodd dawnswyr cawraidd gwynion ymhlith y coed. Wel, am olygfa! Er fy mod wedi gweld llawer o dyrbinau gwynt yn y tirlun pell o ardal fy magwraeth yn Sir Trefaldwyn, ac wedi gweithio dros y misoedd diwethaf yn dysgu am genhadaeth a chynlluniau prosiect Trydan, nid yw dim yn cymharu i weld rhyfeddodau peirianneg fel y rhain mewn person – ac mor agos. 

Dyma lle roedd y profiad o ymweld â fferm wynt ar goetir yn chwalu fy rhagdybiaeth gyntaf: er eu maint crand, yn y goedwig y mae’r sefyllfa fwyaf gweddus dwi erioed wedi gweld tyrbin wynt. Wrth gwrs, mae siap y tirweddi yn helpu i blethu’r olygfa  hefyd, gan fod ystadegau taldra tyrbinau yn cael eu lleddfu i raddau gan natur anwastad y tir. Ond yn fwy na hynny, roedd symbolaeth y ddwy elfen – ynni glân ac adnewyddadwy y tyrbinau, a gweithred y goedwig fel ysgyfaint ocsigenedig yr amgylchedd – yn gweddu mewn modd a ysgogodd gobaith ynof. Wrth feddwl am egwyddorion Trydan, fel cwmni eiddo cyhoeddus a fydd yn cadw pŵer a buddion y trawsnewidiad ynni gyda phobl Cymru, tyfu yn unig a wna’r gobaith hwn! 

Roedd nifer o ragdybiaethau eraill gennai, a chafwyd eu herio a’u haddysgu wrth i mi gwrdd â thîm CNC a thrafeilio trwy’r safle gyda nhw. Roedd y pecyn wybodaeth yma gan Regen, cynghorwyr annibynnol ar gyfer systemau ynni adnewyddadwy yn y DU, yn sylfaen wych i mi, fel cychwynwr yn y sector ynni adnewyddadwy ar dir, ac fe fuddiais ohoni cyn ymweld â choedwig Clocaenog.

Cefais groeso cynnes gan Adam (a’i gi bach ffyddlon, Pepper), yn ogystal â Ffion, rheolwr prosiect Clocaenog Dau ar ochr CNC, a Danny a Rob, cynghorwyr peirianneg sifil CNC yn arbenigo ar goedwigaeth. Roedd arbenigedd a phrofiad sylweddol y tîm yn fuddiol iawn i mi, fel rhywun sydd, er yn llawn angerdd dros yr amgylchedd a ffyniant cymunedau Cymru, yn weddol newydd i’r byd gwaith a’r prosesau a meddylfrydau tu nôl i brosiectau ynni mawr. 

Wrth i ni ddechrau trwy’r goedwig, dyma ragdybiaeth arall yn cael ei fygwth: roeddwn i am weld i ba raddfa oedd y goedwig yma yn ‘naturiol’ o ran absenoldeb prosesau a seilwaith dynol. Cafodd ei fygwth gan gri’r llif gadwyn a’r cerbydau y clywsom yn aml, sythder y coed Sbriws Sitka a fu’n fôr gwyrdd o’n hamgylch, a’r gwe o wefrau tan-ddaearol a ddilynir yr heolydd y gyrron ni arnynt trwy’r coed. Yn wir, diwydiant rheoledig yw rhan helaeth o’r goedwig, fel y mae wedi bod ers i’r goedwig gael ei dorri am ei phren yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’i ail-blannu tua chanol yr ugeinfed ganrif.

Wrth gwrs, cynefinoedd sydd o fewn y goedwig, ac nid diwydiant yn unig, diolch i reolaeth gan CNC a gwaith gan grwpiau cadwraeth megis Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog. Esboniodd Danny rai technegau coedwigaeth a ddarparir yng Nghlocaenog wrth i ni deithio heibio eu canlyniadau: clirio coed (‘clear-felling’), sydd yn uchafu gwerth masnachol y coed ond yn gadael ardal ddynodedig heb unrhyw goed; a thechneg Systemau Coedamaeth Effaith Isel (LISS), sydd yn blaenoriaethu ecoleg a golwg y goedwig trwy clirio coed ar gyfnodau gwahanol, er mwyn iddynt aeddfedu yn wasgarog a chadw gorchudd coed iachus o hyd pan dorrir coed aeddfed. 

Yn ogystal, esboniwyd ‘gwefr-goridorau’ i mi, canlyniad syfrdanol o bositif sydd yn creu cynefinoedd newydd ar y llawr uwchben y gwefrau trydan tanddaearol sydd yn cysylltu tyrbinau’r fferm wynt presennol at is-orsaf, tua gogledd y goedwig. Mae hyd at 30m o goed yn cael eu clirio ar ochr y ffyrdd, er mwyn sefydlu gwefrau tanddaearol ac osgoi unrhyw effaith gan wreiddiau coed. I ddechrau, roedd hwn yn swnio fel colled cynefin i mi, ond esboniodd Adam gynlluniau Trydan i optimeiddio’r ardaloedd yma fel coridorau rhostir (‘heathland’), sydd yn adeiladu gwydnwch y cynefin hollbwysig ac yn lleihau costau o gymharu â glaswellt, sydd angen ei dorri yn aml. Mae rhostir yn wych ar gyfer atynnu infertebratau megis pili pala a chwilod yn ogystal â mamaliaid bach megis llygod y dŵr a llygod, ac felly maent yn feysydd bwydo i ystlumod, ac adar ysglyfaethus megis tylluanod. Roedd yr elfen annisgwyl yma o fuddion ecolegol o achos gweithred dynol yn fy synnu – tybed pa fuddion eraill y gellir eu meithrin o achos y prosiectau yma? 

Mae dealltwriaeth o’r prosesau yma yn hollbwysig i Trydan, er mwyn lleihau ymyrraeth a hyd yn oed gwella sefyllfa amgylcheddol y goedwig wrth i ni ddylunio, adeiladu, cynnal a datgomisiynu ein prosiect.

-

Pwrpas ein taith oedd i gyrraedd man lle mae Trydan yn cynllunio i osod offer LiDAR, sydd yn defnyddio technoleg laser i recordio cyflymdra a chyfeiriad gwynt yn yr ardal. Dysgais am werth yr offer yma er mwyn i Trydan a CNC allu deall yn union beth yw’r sefyllfa amgylcheddol yn yr ardal, a sut gall ein prosiect effeithio ar hyn. Dyma addysgiad arall i un o’m rhagdybiaethau! Roeddwn i eisiau deall pa mor drylwyr oedd y timau datblygu wrth feddwl am bryderon a blaenoriaethau pobl leol am elfennau o’r prosiect: oedd targedau a cherrig milltir cynllunio yn cymryd blaenoriaeth, yntau cyfaddasrwydd y prosiect i’r amgylchedd ac i gymunedau a oedd yn destun pryder i rai gyda phrosiectau ynni mawr fel Clocaenog Dau? 

Mae cefndir a phrofiad blaenorol y tim yn tawelu’r meddwl: ecolegydd yn gysylltiedig â Choedwig Clocaenog oedd Adam cyn iddo ymuno â Trydan; arbenigwr mewn amddiffyn rhag llifogydd oedd Rob cyn ei rôl bresennol yn CNC; aelod o dîm addysgu CNC oedd Ffion; a blynyddoedd o brofiad yn rheoli coedwigoedd Gogledd Cymru sydd gan Danny, gan gynnwys gweithio yn ystod cyfnod adeiladu’r fferm wynt gyntaf yng Nghoedwig Clocaenog, sy’n berchen ar RWE. Felly, cyfuniad gwych o arbenigedd mewn technoleg, cymunedau, a gofal amgylcheddol sydd yma! Pwysleisiodd Danny gwerth sydd gan dîm aml-gefndirol o ran safbwyntiau eang sydd yn rhoi’r siawns orau i brosiect fod yn un meddylgar ymhob maes. Yn wir, mae Trydan wedi sicrhau cydweithrediad gyda thimau profiadol mewn meysydd priodol a lleol er mwyn teilwra arbenigedd i bob prosiect ynni. 

Ar ôl i ni ymweld â lleoliadau rhai o dyrbinau ein cynllun, gadawyd cwpl o funudau i mi gael profiad o fod reit wrth ymyl tyrbin wynt yn y goedwig! A dyma ddiwedd fy rhagdybiaethau am yr ymweliad: sut sŵn oedd y tyrbin yn cynhyrchu? Rwyf wedi clywed pryder am elfennau gweledol a sain tyrbinau gwynt yn y gorffennol, felly roedd hwn yn elfen bwysig i mi gael profiad personol ohono. Wrth gwrs, mae tywydd, cyflymder gwynt, natur y tirwedd, ac elfennau eraill yn effeithio ar sain y tyrbinau – dwi wrthi yn dysgu mwy am hyn wrth i’n prosiectau sefydlu offer monitro sain er mwyn deall yr elfennau yma mewn manylder dros ein prosiectau arfaethedig. 

Ond, braf i mi gael dweud fy mod wedi fy syfrdanu gan y dawnsiwr cawraidd unwaith eto, y tro ‘ma gan ei sain gymharol ddistaw ar y diwrnod hwnnw. Esboniodd Adam fod technoleg ynni gwynt wedi datblygu llawer iawn dros y blynyddoedd diwethaf, a bod lleihau sŵn yn rhan fawr o’r datblygiad yma, yn ogystal â gwella effeithlonrwydd generadu egni. Mae ardal Clocaenog yn ffordd ddiddorol o weld a chlywed y datblygiadau yma, o fferm wynt Tir Mostyn (a adeiladwyd yn 2005) ar gyrion y goedwig i fferm wynt Clocaenog gan RWE (a ddechreuodd generadu yn 2020) o fewn y goedwig.

-

Ac felly, dyma fy ymweliad safle cyntaf yn dod at ei ddiwedd. Cefais fewnwelediad gwerthfawr i gynlluniau un o brosiectau Trydan mewn person – prosiect sydd yn barod yn dangos ei gymhlethdod a’i amrywiaeth amgylcheddol, technegol, a chymunedol. Ond, ymhlith y cymhlethdodau yma yr oedd hadau nifer o’u hatebion: 

1.      Tîm aml-brofiadol fydd yn sicrhau:

2.      Technolegau arloesol yn gwella o hyd ac yn cynnig buddion mawr i system ynni ac economi Cymru 

3.      Cwmni eiddo-cyhoeddus Cymreig sydd yn barod i gyd-weithio gyda phobl, cyrff a chwmniau Cymru i gyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy sydd yn:

Wrth i mi weithio i ymgysylltu gyda rhanddeiliaid lleol i’n prosiectau, a chyda’r cyhoedd ledled Cymru, gobeithiaf y bydd fy ngobaith innau yn lledaenu wrth i effaith ein gwaith – fel eiddo a chyfoeth cyhoeddus sydd yn buddio Cymru a’i genhedlaethau nesaf – ddod i’r amlwg.