Cyhoeddwyd 02/09/2026 | Diweddaru Diwethaf 16/09/2026
Er yn gyfnod sydd yn aml yn gysylltiedig ag arafu ac ail-wefru batris, roedd yr haf yn un prysur i Trydan Gwyrdd Cymru. Dros y misoedd diwethaf, bûm yn ymgysylltu gydag ystod eang o gymunedau a phobl Cymru, boed yn agos at safleoedd ein prosiectau arfaethedig, neu yn mynychu digwyddiadau diwylliannol nodweddiadol y wlad. Dyma deithlen, felly, o’n gwaith yn ystod y cyfnod bywiog yma.
Archwiliwch deithlen Trydan dros yr Haf
Bydd hyn yn agor tab newydd.
Teithlen Trydan, Haf '26 (Graffig Llawn)
Dechreuwn ar raddfa fawr – hynny yw, ymgysylltu â phobl Cymru trwy ddigwyddiadau cenedlaethol. Bu Pennaeth Ymrwymiad Cyhoeddus a Phennaeth Datblygiad Trydan ar faes Y Sioe Fawr yn Llanelwedd, i wrando a sgwrsio am brosiectau ynni adnewyddadwy Trydan, sy’n eiddo cyhoeddus ac wedi’u lleoli ar dir cyhoeddus. Thema allweddol a ddaeth yn amlwg yn eu sgyrsiau oedd dealltwriaeth well yn y genedl o gysylltiadau sylfaenol rhwng ein ffyniant, llesiant a’n gwaith rheoli tir. Newid cadarnhaol yw hyn, un y mae Trydan yn cefnogi ac yn ymgorffori, er mwyn cyd-gyflawni buddion lluosog o’n hadnoddau naturiol, a’u rheoli yn gynaliadwy.
Pythefnos yn ddiweddarach, ar faes Eisteddfod y Garreg Las oedd Trydan, yn cynnal gweithgareddau i bawb o bob oedran gymryd rhan a chynnig barn, dros ddeuddydd prysur. O weithgareddau crefft a chystadlaethau ‘cwis’ i blant yn y Pentre Gwyddoniaeth a Thechnoleg, i holi pobl ar y maes am eu barn a’u cwestiynau am ynni adnewyddadwy, a chynnal panel o bobl ifanc i drafod sut i ddefnyddio eu sgiliau cyfathrebu i uwcholeuo’r argyfwng hinsawdd a’r potensial sydd gan Gymru fwy uchelgeisiol, bu’n gyfle ffrwythlon i gyflwyno Trydan a’i weledigaeth, ac i gynnwys a diweddaru pobl Cymru ynglŷn â’n prosiectau gwynt a solar – gan gynnwys Glyn Cothi, y prosiect agosaf at yr Eisteddfod blwyddyn yma.
Cyhoeddwyd eitem newyddion am ein cyfnod yn yr Eisteddfod – gellir darllen mwy yma.


Yn ogystal â digwyddiadau cenedlaethol, fe ymwelwyd yn aml â’r ardaloedd cyfagos i’n prosiectau arfaethedig er mwyn gwrnado a sgwrsio gyda chymunedau lleol i’n gwaith. Yn achos prosiect arfaethedig Fferm Wynt Carreg Wen, wedi’i leoli yn Rhondda Cynon Taf, trefnwyd presenoldeb mewn ‘fete’ dwy ysgol leol i safle’r prosiect, gan gynnal gweithgareddau hwyl i blant a sgyrsiau difyr gyda rhieni am eu barn, eu blaenoriaethau, a’u rhan bwysig yn natblygiad y prosiect, fel rhanddeiliad lleol.
Bu nifer o gyflwyniadau rhwng Trydan a grwpiau cymunedol a busnes dros Rondda Cynon Taf yn y misoedd diwethaf, gan gynnwys cyfarfodydd Business in the Community, Clwb Busnes RCT, ‘Neighbourhood Networks’ a chanolfan cymunedol Maerdy, ac RCT Climate Action Network. Cyfleoedd pwysig oedd y rhain, er mwyn i gymunedau a busnesau lleol gael cyflwyniad i Trydan a phrosiect Carreg Wen, ac i ddeall datblygiad y prosiect a’r cyfleoedd fydd i gael mewnbwn yn y broses datblygu ac i fuddio o’r prosiect yn yr hir dymor.
Bu’r gymuned fusnes yn ffocws i waith Trydan ar brosiect arfaethedig Glyn Cothi dros yr haf. Ar ddechrau mis Gorffennaf, cynhaliwyd Brecwast Busnes Sir Gaerfyrddin gan Trydan. Mynychodd dros 50 o gynrychiolwyr busnesau a sefydliadau o bob cŵr de-orllewin Cymru, i ddysgu gan siaradwyr Trydan a siaradwyr gwadd o sectorau allweddol y sir am y cyfle economaidd mawr sydd yn wynebu Cymru, a’r de-orllewin yn benodol, wrth i systemau ynni’r byd troi at dechnoleg ynni adnewyddadwy, carbon isel. Roedd siaradwyr o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, Associated British Ports, Cyngor Sir Gâr, a Knights Brown Construction wedi crisialu’r cyfle ar gyfer ynni adnewyddadwy ar y tir ac ar y môr yn yr ardal, sydd yn ystyrlon o anghenion a blaenoriaethau lleol ac yn cefnogi’r economi a gwytnwch ynni de-orllewin Cymru, a Chymru gyfan.
Adeiladwyd ar y cyswllt yma â busnesau trwy ddigwyddiad Eich Sir Gâr Chi gan 4TheRegion, a gymrodd lle ar 2il ben-blwydd Trydan ers ei lansiad cyhoeddus, lle y trafodwyd ymhellach gyda busnesau addysgiadol, adeiladu, ac eraill am gyfleoedd prosiect Glyn Cothi.
Cawsom hefyd weithdy rhith yn ymwneud ag ecoleg yng nghoedwig Brechfa, a’r ardal gyfagos, gydag arbenigwyr lleol yn codi sylwadau ac yn holi’r tîm.


Ffocws ar gymunedau cefn gwlad oedd ffocws amser Trydan yn ardal prosiect arfaethedig Clocaenog Dau. Roedd aelodau tîm Trydan yn falch o groesawu Elfed Williams AS a Becca Martin AS i safle Clocaenog Dau, er mwyn trafod agweddau o ddyluniad cynnar y prosiect, y mewnbwn a data rydym yn ystyried wrth adolygu’r dyluniad hwnnw, y buddion posibl all ddod o brosiect ynni ar raddfa fawr a sut mae cadw elw a gynhyrchir yng Nghymru. Tua diwedd Awst, cafwyd sgyrsiau difyr gydag aelodau amaethyddol yr ardal yn ystod sioe Nantglyn a sioe Dinbych a Fflint – sgyrsiau pwysig yw’r rhain i sicrhau bod diwydiannau ynni ac amaeth yn gweithredu ochr yn ochr i gyd-gyfrannu at wytnwch hanfodion y wlad, megis ynni a bwyd.

Felly, ar ôl diwedd yr haf, mae Trydan yn edrych i’r dyfodol.
Edrychwn ymlaen at barhau ein hymgysylltu gyda phobl Cymru, trwy ddangosiadau o’r ‘Briff Argyfwng i’r Bobl’ mewn partneriaeth gyda Theatr Soar, ym Merthyr, ar y 7fed ac 8fed o Hydref.
Mae hefyd teimlad “dechrau tymor ysgol” arnom ni: wedi profi ein Platfform Addysgiadol i griw o bobl ifanc yn mynychu cwrs haf yng Ngwersyll amgylcheddol yr Urdd ym Mhentre Ifan, rydym yn edrych ymlaen i'w gyflwyno i ddosbarthiadau ysgolion uwchradd.
Ac wrth gwrs mae gweithgareddau datblygu prosiectau yn bwrw ymlaen. Byddwn yn cynnal Ymgynghoriad Ffurfiol Cyn-ymgeisio ar gyfer Fferm Solar Larnog yn ystod Hydref a Gaeaf 2026. Edrychwn ymlaen at dderbyn adborth gan drigolion a rhanddeiliaid lleol ar ein cynlluniau ar gyfer y prosiect.