Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Cymunedol
(Cymraeg yn Hanfodol)

Pecyn gwybodaeth ar gyfer ymgeiswyr

Rydym yn recriwtio Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu â’r Gymuned i ymuno â’n tîm. Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd â phrofiad blaenorol o gyfathrebu ac ymgysylltu â’r cyhoedd—yn ddelfrydol yng nghyd-destun datblygiadau ynni adnewyddadwy neu brosiectau seilwaith—sy’n angerddol am wneud gwahaniaeth yng Nghymru.

Rydym yn chwilio am rywun sy’n rhannu ein hymrwymiad i hyrwyddo datgarboneiddio drwy gefnogi datblygiad prosiectau ynni adnewyddadwy priodol, wedi’u lleoli’n addas, sy’n darparu buddion economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol i gymunedau ledled Cymru.

Mae’n hanfodol bod yr ymgeisydd yn rhugl yn y Gymraeg ar gyfer y swydd hon, gan y byddwch yn gweithio’n agos gyda chymunedau a rhanddeiliaid ledled Cymru.

Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth ar gyfer ymgeiswyr YMA a’r Ffurflen Monitro Amrywiaeth i wneud cais erbyn 16:00 19/09/2025!